Byddaf yn cynnal cymorthfeydd rheolaidd ar brynhawn dydd Gwener yn Wrecsam a’r pentrefi cyfagos.
Bydd pobl yn dod yno gyda phob math o anawsterau a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i helpu bob amser. Mae’r problemau mwyaf cyffredin yn ymwneud â thai, gwaith, budd-daliadau, iechyd, addysg, mewnfudo a’r amgylchedd. Cofiwch fod croeso i chi gysylltu â mi os byddwch angen help neu gyngor.
Rwyf hefyd yn awyddus i glywed eich barn am sut y medrwn wneud pethau’n well, felly peidiwch â theimlo bod rhaid i chi fod â phroblem benodol cyn cysylltu!
|