Hafan
Proffil
Wrecsam
Newyddion
Sut i gysylltu â mi
Cyngor a Chymorthfeydd
Fy ngwaith yn y Senedd
Fy ngwaith yn Wrecsam
Dolenni Gwe
Ffilmiau
Lwfansau
English

Ganed fi ym 1960, yn ail fab i Colin ac Alice Lucas, yn Gateshead, Swydd Durham. Gweithiodd fy nhad ar hyd ei oes fel proses-beiriannydd mewn ffatri leol ar wahân i gyfnod yn y fyddin rhwng 1942 -1947. Gwraig tŷ oedd fy mam a oedd weithiau’n gweithio fel glanhawraig mewn cartref plant lleol.

Nid oedd y naill na’r llall yn aelod o blaid wleidyddol ond drwy draddodiad roedd y ddau’n pleidleisio i’r Blaid Lafur. Byddai’r teulu’n siarad am wleidyddiaeth ar yr aelwyd; am fy nhaid a oedd yn löwr ac a oedd dan waharddiad ar ôl y Streic Gyffredinol ac a fu farw o emffysema, ac am fy nain a chwifiodd y Faner Goch yn ei gardd ar Ddiwrnod y Fuddugoliaeth yn Ewrop yn lle Jac yr Undeb. Mae gen i frith gof o wneud project ysgol ar Trotsky pan oeddwn yn wyth oed ond roedd gen i fwy o ddiddordeb yn y ffaith fy mod i wedi methu ennill lle yn nhîm pêl-droed yr ysgol.

Ym 1979 myfi oedd yr aelod cyntaf o’m teulu i fynd i’r Brifysgol ar ôl bod i’r ysgol yn Harlow Green, Ysgol Uwchradd Iau Greenwell ac Ysgol Ramadeg Frenhinol Newcastle. Astudiais y gyfraith yn y Coleg Newydd, Rhydychen, ond ni chymerais unrhyw ran yng ngwleidyddiaeth y myfyrwyr er fy mod yn dilyn materion y dydd yn frwd iawn – y diweithdra cynyddol dan Thatcher, Rhyfel y Falklands a dinistr diwydiannau trwm yng Ngogledd-Ddwyrain Lloegr lle magwyd fi.

Enillais gymwysterau cyfreithiwr yn Llundain ym 1985 a symud i Wrecsam y flwyddyn wedyn a dechrau arbenigo mewn cyfraith trosedd a hawliadau anafiadau personol. Gweithiais ar Lannau Mersi a gweld drosof fi fy hun y problemau dychrynllyd a greir gan amddifadedd cymdeithasol a chyffuriau.

1986 oedd y flwyddyn yr ymunais â’r Blaid Lafur a bûm yn actifydd byth ers hynny. Bu gen i sawl swydd leol gyda’r blaid gan gynnwys Cadeirydd Plaid Lafur Wrecsam. Roeddwn yn rhedeg swyddfa cyfreithiwr yn Wrecsam o 1989 tan 1992, pan helpais i drefnu math o weithredu diwydiannol ymhlith cyfreithwyr y dref oherwydd pryder ynghylch gostyngiad mewn Cymorth Cyfreithiol.

Doedd hyn ddim yn beth poblogaidd ymhlith fy nghyflogwyr ac felly fe adewais y cwmni a dechrau gweithio ychydig dros y ffin yn Swydd Amwythig. Bûm yno am ryw 8 mlynedd a sefydlais fy nghwmni cyfreithiol fy hun. Yn ystod y cyfnod hwnnw y cynrychiolais i’r gwarchodwr a anafwyd yn y ddamwain a laddodd Diana, Tywysoges Cymru. Roeddwn yn Llywodraethwr Ysgol ac yn aelod o fwrdd yr ysbyty lleol, gan ddelio ag ansawdd gofal a chwynion cleifion. Yn Etholiad Cyffredinol 1997 sefais fel Ymgeisydd y Blaid Lafur yn sedd wledig ddiogel y Torïaid yng Ngogledd Swydd Amwythig. Enillasom y canlyniad gorau erioed i’r Blaid Lafur ond collais y sedd o drwch blewyn.

Yn 2001 roeddwn yn hynod falch o gael fy ethol yn Aelod Seneddol dros Wrecsam. Fy mhrif ddiddordebau yw Materion Cartref, yr Amgylchedd a Datblygiad Tramor, yn enwedig gwaith y Cenhedloedd Unedig

Ym mis Mehefin eleni, penodwyd fi yn Is-ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau. Ymhlith y meysydd a gynhwysir gan fy ngwaith mae’r diwydiannau modurol ac awyrofod.

Bûm yn briod â Norah ers 1986. Mae gennym 2 blentyn ac rydym yn byw yn Wrecsam. Mae Norah wedi bod yn dysgu cerddoriaeth mewn ysgolion lleol ers 1986.