Hafan
Proffil
Wrecsam
Newyddion
Sut i gysylltu â mi
Cyngor a Chymorthfeydd
Fy ngwaith yn y Senedd
Fy ngwaith yn Wrecsam
Dolenni Gwe
Ffilmiau
Lwfansau
English

Mae fy ngwaith yn y SENEDD yn rhan hanfodol o’m swydd. Mae dadlau a thrafod yn y Senedd yn dal i fod yn ganolog i fywyd ym Mhrydain ac rwyf yn gwneud fy ngorau glas i hybu buddiannau Wrecsam yn San Steffan.

Mae fy ngwaith yn cynnwys llawer mwy nag areithio yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn Trafnidiaeth, Addysg, Materion Cartref a’r Amgylchedd, ac rwyf wedi defnyddio fy amser yn y Senedd i amlygu pob un ohonynt a’u perthnasedd i Wrecsam. Medrwch gael gwybod am fy nghyfraniadau ar y Wefan Seneddol yn www.parliament.uk.

Ym mis Mehefin eleni, penodwyd fi yn Is-ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau. Ymhlith y meysydd a gynhwysir gan fy ngwaith mae’r diwydiannau modurol ac awyrofod. Mae’r swydd yn un hynod ddiddorol ac mae’n hanfodol i waith y Llywodraeth.