Wrecsam yw "prifddinas answyddogol Gogledd Cymru." (The Times Guide to the House of Commons 2001). Tref ddiwydiannol a oedd yn dibynnu ar y diwydiannau glo a dur fu hi ond mae ei heconomi wedi llwyddo i arallgyfeirio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gyda chyflogwyr mawr fel JCB, Sharp Manufacturing a Tetrapak creodd dwf sydyn mewn diwydiant ysgafn ac, ers 1983, mae diweithdra lleol wedi gostwng o 20% i 4.5%.
Saif Wrecsam ar y ffin â Lloegr ac mae ei chymuned yn amrywiol ond cryf. Mae pentrefi fel Llai, Gresffordd a Gwersyllt yn dangos nodweddion cymunedau glofaol. Mae diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg yn chwarae rôl fwyfwy pwysig. Mae bryniau Cymru a’u harddwch gwyllt o fewn ychydig funudau i’r dref.
Yn sgîl creu Bwrdeistref Sirol Wrecsam unedol ym 1995, mae’r cyngor lleol wedi arwain datblygiad llwyddiannus iawn ar ganol y dref gan ychwanegu at y teimlad bod y dref yn ffynnu. Bellach mae ymwelwyr yn dod i Wrecsam oherwydd ei chanolfan siopa drawiadol a’i digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon datblygol. Cynhaliwyd gemau rhyngwladol Rygbi’r Undeb a Rygbi’r Cynghrair yn y dref ar safle’r Cae Ras a ddatblygwyd yn ddiweddar, sef cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam sydd wedi brwydro mor ddewr am y cwpan.
Coleg Iâl a Phrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, a grewyd yn ddiweddar (sef Sefydliad Gogledd-Ddwyrain Cymru gynt), yw banerwyr y sector addysg trawiadol ac mae Ysbyty Maelor yn cydweithio’n agos gyda hwy i wella’r ddarpariaeth gofal iechyd leol.
Mae Wrecsam yn uchelgeisiol. Mae’n credu nad yw ei phwysigrwydd o fewn Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cael ei gydnabod yn llawn ac mae’n croesawu ymwelwyr i weld drostynt eu hunain gymaint y mae Wrecsam wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. |