Hafan
Proffil
Wrecsam
Newyddion
Sut i gysylltu â mi
Cyngor a Chymorthfeydd
Fy ngwaith yn y Senedd
Fy ngwaith yn Wrecsam
Dolenni Gwe
Ffilmiau
Lwfansau
English

Etholir AS i gynrychioli ei etholwyr ac i wneud ei orau i’w gymuned.

Mae cynrychioli Wrecsam yn golygu hybu’r dref a lles y bobl. Fy nod yw helpu i gyflawni hyn drwy fy ngwaith yn San Steffan.

Rwyf yn pwyso’n barhaol am welliannau yn Wrecsam. Rwyf yn gweithio gydag unigolion, undebau llafur, busnesau a sefydliadau cymunedol i ddiogelu manteision i’r dref.

Un enghraifft o’r ymgyrchoedd presennol yw’r ymgyrch i uwchraddio’r gwaith sydd i’w wneud ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston, (ac oddi yno i Lerpwl).

Rwyf yn cefnogi ffatrïaeth yn y dref ac rwyf yn gweithio’n agos gyda Fforwm Busnes Ystad Ddiwydiannol Wrecsam sy’n llwyddiannus iawn. Rwyf yn croesawu datblygiad parhaol diwydiannau uwchdechnolegol yn Wrecsam fel cynhyrchion fferyllol ac ynni adnewyddadwy. Mae gen i lawer o etholwyr sy’n gweithio yn y diwydiant awyrofod yn Airbus UK yn yr etholaeth gyfagos ac mewn cwmnïau yn Wrecsam.

Rwyf wedi gweithio gyda grwpiau cefnogwyr ac awdurdodau pêl-droed cenedlaethol i helpu i achub Clwb Pêl-droed Wrecsam – un o’r rhesymau pennaf y mae pobl o’r tu allan wedi clywed am y dref. Mae gen i gysylltiad gyda grwpiau cymunedol sy’n cynrychioli pobl Wrecsam a byddaf yn ymateb i faterion a godir gyda mi ganddynt hwy a gan etholwyr unigol.

Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn plismona cymunedol ac roeddwn yn cefnogi cyflwyno swyddogion cymorth cymunedol pan oedd y Prif Gwnstabl lleol yn wrthwynebus. Mae plismona cymunedol Wrecsam – gyda heddgeidwaid a enwir ar gyfer pob ward cyngor – yn fodel y gall trefi a dinasoedd eraill ei ddilyn.

Fy niddordebau arbennig yw technolegau microgynhyrchu (mae celloedd ynni solar yn cael eu gwneud yn Wrecsam) a thrafnidiaeth. Rwyf eisiau sicrhau bod llwyddiant economaidd Wrecsam yn cael ei ddatblygu fel ag i wneud Wrecsam yn dref gynaliadwy gyda systemau ynni a thrafnidiaeth sydd yn ychwanegu at ansawdd bywyd ac nid yn ei leihau.

Fel arfer byddaf yn Wrecsam dros y penwythnos, ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul. Rwy’n hoffi treulio cymaint o’r amser hwn ag sy’n bosibl yn ymweld â gweithleoedd, ysgolion a phob math o grwpiau lleol.

Os ydych yn ymhél a rhywbeth ac os hoffech gael fy nghefnogaeth, cofiwch fod croeso i chi gysylltu â mi – byddaf yn falch o ddod i’ch gweld.

Rwyf yn cynnal cymorthfeydd rheolaidd felly cofiwch gysylltu â mi os bydd gennych broblem, safbwynt neu syniad da ac fe wnaf fy ngorau i gael pobl i weithredu!